Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
Martha Emily Jenkins
Man geni: Lerpwl
Gwasanaeth: Stiwardes, SS Aguila
Marwolaeth: 1915/03/27, SS Aguila / ger yr glannau Sir Benfro, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Tower Hill, Llundain
Nodiadau: Ganwyd Martha Jenkins yn Lerpwl ond i deulu Cymreig. Bu’n stiwardes ar SS Aguila a oedd yn masnachu rhwng Lerpwl a’r Ynysoedd Dedwydd. Trawyd y llong gan dorpido o long danfor Almaenig oddi ar arfordir Sir Benfro. Collwyd wyth o bobl gan gynnwys teithwraig na wyddys pwy oedd hi.
Ffynonellau: http://www.benjidog.co.uk/Tower%20Hill/WW1%20Agenoria%20to%20Alaunia.html#Aguila
Cyfeirnod: WaW0173
Adroddiad papur newydd
Rhan o adroddiad am suddo’r SS Aguila, Abergavenny Chronicle 2ail Ebrill 1915
Augusta Minshull
Man geni: Atherstone
Gwasanaeth: Nyrs, St John’s Ambulance, Scottish Women’s Hospital
Marwolaeth: 1915/03/21, Kraguievatz, Typhus fever / Haint teiffws
Cofeb: Nghladdfa Filwrol Chela Kula , NÄs, Serbia
Nodiadau: Ganwyd Augusta Minshull yn 1861 yn Atherstone, ger Manceinion, ond cafodd ei magu yn Ninbych lle roedd ei rhieni yn rhedeg y Crown Hotel. Ymddengys iddi hyfforddi’n nyrs ar ôl i’w mam farw. Cafodd lu o brofiadau mewn ysbytai yn Lloegr a Dulyn. Yn 1914 ymddengys iddi deithio i Wlad Belg ac yna i Kraguievatz, Serbia yn gynnar yn 1915. Bu farw yn yr epidemig o deiffws yn 53 neu 54 oed.
Cyfeirnod: WaW0468
LlunAugusta Minshull
Casglwyd llun Augusta gan Is-bwyllgor y Menywod fel rhan o’i gasgliad o fenywod fu farw yn ystod y rhyfel.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Augusta Minshull yn Serbia. Denbighshire Free Press 17th April 1915
Catherine J James
Man geni: Llanelli
Gwasanaeth: Nyrs, St Johns Ambulance
Marwolaeth: 1919/12/04, Llanelli, Tuberculosis / Y diciáu
Cofeb: Capel Tabernacl, Llanelli, Sir Gaerfyddin
Nodiadau: Roedd Catherine yn Aelod o Ambiwlans Sant Ioan. Gwasanaethodd gydol y Rhyfel, ym Mhorthcawl i ddechrau ac yna yn Stebonheath, Llanelli (lle daliodd y diciáu a’i lladdodd yn 28 oed, efallai) Gwelir ei henw ar y plac coffáu’r rhyfel yng Nghapel Tabernacl, Llanelli.
Ffynonellau: https://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire-memorials/llanelli-tabernacl-chapel-war-memorial
Cyfeirnod: WaW0404
R E Jones
Man geni: Abertawe ?
Gwasanaeth: Swansea Infirmary Ysbyty Abertawe , 1916 -
Nodiadau: Roedd Miss R E Jones yn ymarferydd profiadol a phenodwyd hi yn Fferyllydd yn Ysbyty Abertawe ym mis Hydref 1916, gan guro dau ymgeisydd gwryw am y swydd. Roedd i dderbyn cyflog o £176 y flwyddyn.
Cyfeirnod: WaW0462
Janet Gulliver
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Athrawes, plisemones gweirfoddolwragedd, Swansea Women’s Patrols, February / Chwefror 1916-1917
Nodiadau: Roedd Janet Gulliver yn athrawes fathemateg a addysgwyd yng Ngholeg Somerville, Rhydychen. Ymunodd â Phatrol y Menywod yn Abertawe yn gynnar yn 1916. Efallai mai hi oedd y Janet Gulliver a anafodd ei choes wrth gwympo oddi ar wal ym mis Mai 1917.
Ffynonellau: https://blogs.some.ox.ac.uk/thegreatwar/2016/02/03/february-1916-women-patrols-moral-guardians-and-prototype-police/
Cyfeirnod: WaW0447
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Janet Gulliver yn anafu ei choes. Cambria Daily Leader 28ain Mai 1917.
Elizabeth Clement
Man geni: Abertawe 1890
Gwasanaeth: Nyrs, SWH, 1915 - 1916
Nodiadau: Roedd Elizabeth Clement yn ferch i landlord tafarn yn Abertawe a hyfforddodd yn nyrs yn Wyrcws Llanelli, gan ddod yn Brif Nyrs. Ymunodd ag Ysbytai Menywod yr Alban yn hydref 1915. Cyrhaeddodd hi a’i chriw Serbia yn gynnar ym mis Hydref. Yn fuan wedi iddynt gyrraedd daeth byddin Awstria yn oruchaf yn Serbia, a threuliwyd y rhan fwyaf o Hydref yn symud o fan i fan i osgoi’r gelyn. Erbyn 7fed Tachwedd roeddent yn garcharorion i’r Almaenwyr. Ym mhen amser negydwyd eu rhyddhau a chyrhaeddon nhw Budapest ar eu ffordd i Vienna ar y 6ed Chwefror. Erbyn canol Chwefror 1916 roedd hi’n ôl yn Abertawe. Ymddengys ei bod yn bur enwog; cyhoeddwyd ei dyddiaduron yn y South Wales Daily Post, a chafwyd fersiwn lawn iawn yn Llais Llafur. Byddai’n annerch am ei phrofiadau, a byddai’n ymddangos pan fyddai eraill yn siarad hefyd. Dangoswyd taflun llusern ohoni mewn gwisg ‘Serbaidd’ mewn darlith gan y llyfrgellydd poblogaidd Mr W. W. Young yn Ionawr 1917.
Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/women/
Cyfeirnod: WaW0114
Elizabeth Clement
Darlun o Elizabeth Clement yn brif nyrs yn wyrcws Llanelli. Herald of Wales and Monmouthshire Recorder, 25ain Rhagfyr 1915.
Adroddiad papur newydd
Rhan gyntaf cyhoeddiadau’r South Wales Daily Post o ddyddiaduron Elizabeth, South Wales Daily Post 19eg a 26ain Chwefror 1916.
Elizabeth Clement gyda chydweithwyr a milwyr Serbaidd
Darlun o Elizabeth Clement, dydd Nadolig 1915, gyda chydweithwyr a milwyr Serbaidd. Mae’n sefyll yn y rhes gefn, trydedd o’r dde.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddarlith ar Serbia gan W.W.Young. Dangosir Elizabeth mewn gwisg Serbaidd. Cambria Daily Leader, 19eg Ionawr 1917.
Annie M Evans
Man geni: Cwmdar c.1872
Gwasanaeth: Nyrs, SWH, 1915 - 1916
Nodiadau: Cyn fetron Ysbyty Twymyn Blackburn oedd Annie Evans. Ymunodd ag Ysbyty Menywod yr Alban yn Valjevo, Serbia yn 1915. Cymerwyd hi a’r uned yr oedd yn ei gwasanaethu yn garcharorion rhyfel gan yr Awstriaid ar 10fed Tachwedd 1915. Wedi misoedd o ddadlau gan Dr Alice Hutchinson, Pennaeth yr uned cafodd hi a 32 arall eu hanfon adre i Brydain.
Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/women/
Cyfeirnod: WaW0111
Rowena Hopkin (Field)
Man geni: Llan-giwg
Gwasanaeth: Nyrs, SWH, 1916 - 1917
Nodiadau: Ymunodd Rowena Hopkin ag Ysbytai Menywod yr Alban yn 1916, ac ymddengys iddi weithio yn Serbia. Priododd GW Field yn 1918; mae ychydig o’u gohebiaeth wedi goroesi.
Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/women/
Cyfeirnod: WaW0122
Llun papur newydd
Llun ac adroddiad am wobrwyo Rowena Hopkin ag Urdd San Siôr. Herald of Wales 5ed Mai 1917
Mathilde Augusta Lilian Laloe
Man geni: Caerfyddin 1877
Gwasanaeth: Gweinyddwraig, SWH, 1916 - 1920
Nodiadau: Roedd Lilian Laloe yn ferch i Auguste Felix Laloe, athro o Ffrainc a ddaeth yn brifathro Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth yn 1874. Ymunodd hi âg Ysbytai Menywod yr Alban yn gogydd, ond cafodd ei dyrchafu yn Weinyddwraig ymhen dim.
Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/women/
Cyfeirnod: WaW0086
Lilian Laloe, (cefn, ail o’r chwith)
Lilian Laloe (cefn, ail o’r chwith) gyda Doctoriaid Ysbyty Menywod yr Alban, Salonica, 1917?
Annie Alice Guy
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Prif Nyrs, SWH, 1916
Marwolaeth: 1916/08/21, Salonika, Dysentery
Nodiadau: Alice Annie Guy bu farw 21ain Awst 1916, Ysbyty Menywod Albanaidd a Byddin Serbia, Chwaer Nyrs, Cyn-Arolygydd Ysbyty Devonshire, Buxton. Claddwyd yng Nghladdfa Filwrol Salonica (Lembet Road). Ceir ei henw ar lyfr Rhestr Anrhydedd y Rhyfel Byd Cyntaf a gedwir yn Llyfrgell Gyfeirio Casnewydd.
Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/women/
Cyfeirnod: WaW0142