Nodiadau: Roedd Miss R Ellis yn gweithio fel masseuse yn Ysbyty’r Groes Goch, Aberystwyth. Caeodd honno yn 1919. Gwnaed trefniadau dros dro iddi barhau i weithio gyda chyn-filwyr anabl yn yr Ysbyty.
Cyfeirnod: WaW0420
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y trefniadau gwaith a wnaed ar gyfer Miss Ellis. Cambrian News 25 Ebrill 1919.
Catherine Fraser
Man geni: Anhysbys
Gwasanaeth: Meddyg, NEF Pembrey / Pen-bre, June 1918 -
Nodiadau: Penodwyd Dr Catherine Fraser a fu cyn hynny yn swyddog meddygol cynorthwyol yn Bradford, yn swyddog meddygol Ffatri Ffrwydron Genedlaethol, Pen-bre ym Mehefin 1918.
Cyfeirnod: WaW0361
Adroddiad papur newydd
Erthygl yn cyfeirio at benodi Dr Fraser i weithio yn Ffatri Ffrwydron Pen-bre.
Mary Elizabeth Phillips (Eppynt)
Man geni: Merthyr Cynog, Aberhonddu
Gwasanaeth: Meddyg, Scottish Womens Hospitals, Royal Army Medical Corp, 1914 - 1919
Marwolaeth: 1956, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Mary Phillips yn 1874 a mabwysiadodd yr enw ‘Eppynt’ o’r mynyddoedd ger man ei geni. Hi oedd y fenyw gyntaf i hyfforddi’n feddyg yng Ngholeg Prifysgol, Caerdydd (1894 – 8), ac yn dilyn hynny bu’n gweithio yn Lloegr. Cefnogai’r NUWSS, ac weithiau siaradai yn eu cyfarfodydd. Ar 8fed Rhagfyr 1914 derbyniodd delegram oddi wrth y Scottish Women’s Hospitals a gefnogid gan yr NUWSS yn gofyn iddi fynd i’w hysbyty yn Calais ar unwaith. Bu yno tan Ebrill 1915, cyn ymuno â’r SWH yn Valjevo, Serbia. Anfonwyd hi gartref yn sal yn union cyn i lawer o aelodau’r SWH gael eu cipio gan fyddin Awstria/Bwlgaria [gweler Elizabeth Clement, Gwenllian Morris]. Ym mis Ebrill 1916 cafodd ei phenodi yn swyddog meddygol Ysbyty Menywod yr Alban yn Ajaccio, Corsica, lle roedd llawer o’r ffoaduriaid o’r lloches o Serbia yn lletya. Gwasanaethodd yno am 14 mis, cyn dychwelyd a theithio trwy Loegr a Chymru Ar ôl gwella penodwyd hi’n Brif Swyddog Meddygol yr SWH yn Corsica. Dychwelodd i deithio Cymru yn codi arian i’r Ysbytai yn Serbia. Roedd yn siaradwraig nodedig yn Gymraeg a Saesneg. Yn 1918 aeth i Lundain i weithio yn Ysbyty Milwrol Stryd Endell, ysbyty 573-gwely a gâi ei redeg gan fenywod yn unig, llawer ohonynt yn swffragetiaid. Ar ôl y Rhyfel bu’n Ddirprwy Swyddog Meddygol Iechyd ym Merthyr Tudful.
Cyfeirnod: WaW0362
Dr Mary Eppynt Phillips
Dr Mary Eppynt Phillips yng ngwisg swyddogol Corfflu Meddygol y Fyddin Frenhinol. Tynnwyd y llun yn 1920. Imperial War Museum.
Telegram
Telegram yn gofyn i Dr Phillips fynd i Calais, 8fed Medi 1914. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar waith Dr Phillips yn ystod y Rhyfel. Brecon County Times 19eg Gorffennaf 1917.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddyfarnu arwyddlun urdd St Java [sef Sava mewn gwirionedd] gan Frenin Serbia. Brecon and Radnor Express 22ain Awst 1918.
Curriculum vitae
Copi o cv Dr Phillips, 1920. Diolch i Gasgliad y Werin Cymru.
Ysbyty Milwrol Stryd Endell
Llawdriniaeth yn Ysbyty Milwrol Stryd Endell.
Minna Amelia Benner (née MacFarlane)
Man geni: Yr Alban
Gwasanaeth: Meddyg, 1914 - 1934
Marwolaeth: 1962, Achos anhysbys
Nodiadau: Minna Benner oedd un o’r menywod cyntaf i gymhwyo’n feddyg ym Mhrifysgol Glasgow, yn 1897. Ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn Iwerddon, yn gweithio fel Swyddog Iechyd Cynorthwyol, symudodd i Gasnewydd yn Swyddog Meddygol Cynorthwyol mewn Ysgolion yn 1914. Yn 1917 daeth yn swtddog meddygol cyntaf Casnewydd ar gyfer y Cynllun Mamolaeth a Lles Plant. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig ym maetheg plant (cyhoeddwyd papur ganddi ar y pwnc yn y Perspectives in public Health yn 1924), ac roedd yn ffeminydd a diddordeb mewn diwygio cymdeithasol. Bu fyw tan ei bod yn 99 oed.
Ffynonellau: British Medical Journal, Who’s Who in Newport 1920
Cyfeirnod: WaW0408
Pennawd y papur
Pennawd y papur a roddodd Minna Benner, Ebrill 1924
Cyhoeddiad
Cyhoeddiad am benodi Minna Benner, 1914
Esther Novinski/y
Man geni: Tonypandy
Gwasanaeth: Meddyg
Nodiadau: Merch gemydd yn Nhonypandy , rhan o’r gymuned Iddewig yn y Cymoedd oedd Esther. Mynychodd Ygsol Sir y Porth cyn ennill ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd. Ar ôl graddio yn 1915 cwblhaodd Esther ei hyfforddiant meddygol yn Ysbyty’r Royal Free, Llundain. Cafodd ei phenodi yn brif lawfeddyg yno ym Mai 1918 er nad oedd eto’n 27 oed!
Cyfeirnod: WaW0436
Adroddiad papur newydd
Adroddiad at benodiad Esther Novinski yn Ysbyty Royal Free. Rhondda Leader 18 Mai 1918.
Mary Thompson Ritchings
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Meddyg, Penswyddog , VAD
Nodiadau: Ganed Dr Mary Ritchings yn 1879 a hi oedd Penswyddog y VAD yn Abertawe erbyn 1912. Yn 1915 fe’i dyrchafwyd yn gyfarwyddwraig feddygol Ysbyty Groes Goch yr YMCA, un o ysbytai mwyaf Cymru gyda 360 gwely. Gweithiodd yno tan ddiwedd y rhyfel, ond parhaodd hefyd i gynnal sesiynau wytnosol yn y clinig arloesol y Mother and Baby Welcome a gymeradwywyd gan y Frenhines Mary ymysg eraill. Enillodd yr MBE ym Mehefin 1918.
Cyfeirnod: WaW0250
Llun papur newydd
Ffotograff o Dr Ritchings gyda chlaf milwrol.
Llun papur newydd
Arolwg o VAD Abertawe, gyda Mary Ritchings, y Penswyddog. Cambrian Daily Leader 31ain Hydraf 1913
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cerdyn Cofnod Dr Mary Ritchings
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am waith Mary Ritchings yn y Mothers and Babies Welcome.
Catherine Meriel (Alcy) Howard (Lady) (née Cowell-Stepney)
Man geni: Llundain
Gwasanaeth: Menyw ddyngarol, pwyllgorwraig a chynghorydd lleol
Marwolaeth: 1952, Llanelli, Achos anhysbys
Nodiadau: Notes [Cy] Ganwyd yr Arglwyddes Howard yn 1876, a hi oedd ail wraig Edward Stafford Howard, cyn wleidydd Rhyddfrydol a chymwynaswraig â Lanelli. Roedd e 25 mlynedd yn hŷn na hi, a bu farw yn ystod cyfnod o fod yn faer yn Llanelli yn 1916. Roedd yr Arglwyddes Howard eisoes yn aelod gweithgar o Fwrdd y Gwarcheidwaid ( Y bu’n gadeirydd arno yn ddiweddarach), a chafodd ei chyfethol yn henadur i gwblhau cyfnod ei gŵr yn faer. O ganlyniad, cafodd ei hethol i’r cyngor yn 1919. Roedd yn gefnogol iawn i’r YWCA ac yn Llywydd y Llanelly Women’s Liberal Association. Enillodd MBE yn 1918, pan ysgrifennwyd yn y Cambrian Daily Leader wrote: ‘Nid yw unrhyw adran o waith y rhyfel, nag unrhyw fudiad dros welliannau yn Llanelli yn gyfan hebddi hi …’. Ar ôl y rhyfel daeth yn Gyngorydd Sir ac yn Ynad Heddwch (1920).
Cyfeirnod: WaW0284
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyfethol yr Arglwyddes Howard yn Faer Llanelli. Cambrian Daily Leader 17eg Mai 1916.
Adroddiad papur newydd a llun
Adroddiad am wobrwyo yr Arglwyddes Howard â’r MBE. Cambrian Daily leader 12fed Mehefin 1918.
Adroddiad papur newydd
Rhan gyntaf adroddiad am gyfarfod bwrdd gwarcheidwaid y tlodion a gadeiriwyd gan Arglwyddes Howard. Roedd y gwarcheidwaid, gyda chefnogaeth Arglwyddes Howard, yn cwyno am ddeiet newydd annigonol y wyrcws. Llanelly Star 10fed Awst 1918, t.3
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Arglwyddes Howard yn sefyll etholiad lleol yn 1919. Cyn hynny roedd wedi ei chyfethol, ond credai’n gryf mewn cael pleidlais iawn. Cambrian Daily Leader 17eg Tachwedd 1919.
Ethel Clara Basil Jayne
Man geni: Llanelli
Gwasanaeth: Menyw fusnes, perchennog golchdy, swyddog lles ffatri arfau, ymgynghorydd y llywodraeth
Marwolaeth: 1940, St Albans, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Ethel Jayne yn 1874, yn ferch i berchennog Cwmni Glo a Haearn Brynmawr cyf. Hyfforddodd mewn gwaith golchdy a chychwynnodd ei chwmni golchdy stêm ei hun, Little Laundries Ltd, yn Harrow tua 1906. Ar ddechrau’r Rhyfel ymunodd ag Adfyddin Wirfoddol y Menywod a gweithiodd hefyd yn trefnu cantinau i’r Groes Goch Ffrengig. Yn 1916 penodwyd hi yn brif swyddog lles cwmni arfau rhyfel Armstrong Whitworth, gyda chyfrifoldeb dros fwy nag 20,000 o fenywod cyflogedig yng ngogledd Lloegr a Glasgow. Ymhlith y datblygiadau newydd a wnaeth roedd golchdai stem. Yn 1919 cyflwynodd dystiolaeth ar les i’r Pwyllgor Seneddol ar Fenywod mewn Diwydiant. Roedd ymhlith y gyntaf i ennill OBE yn Awst 1917. Ar ôl iddi farw claddwyd ei llwch ym medd y teulu yn Llanelli.
Ethel Basil Jayne yn gyrru i un o’i golchdai cynnar mewn poni a thrap. Dyma’i hoff ddull o deithio, fe ymddengys.
London Gazette
Enw Ethel Basil Jayne ar y rhestr gyntaf o OBEau. London Gazette, 24ain Awst 1917.
Mary Ann Holland (née ?)
Man geni: Talywaun ?
Gwasanaeth: Menyw yng ngofal storfa, WRAF
Nodiadau: Cafodd Mrs Holland ei rhyddhau o’r WRAF yn Hydref 1919 pan oedd yn 30 oed. Dwedwyd bod ei gwaith yn dda iawn. Ymrestrodd a gweithiodd yn Llundain, ac roedd yn briod, er na wyddom ei henw morwynol. Gwelir ei henw ar restr Anrhydedd Capel Pisgah, Talywaun.
Cyfeirnod: WaW0292
Tystysgrif Rhyddhad
Tystysgrif rhyddhad Mary Ann Holland 17eg Hydref 1919
Rhestr Anrhydedd
Enw Mrs M A Holland ar Restr Anrhydedd Capel Pisgah, Talywaun.
Gladys *
Man geni: Caerdydd?
Gwasanaeth: Merch
Nodiadau: Ffotograff o ferch ifanc yng ngwisg milwr cyffredin gyda’r Magnelwyr Brenhinol (mae’n rhy fawr iddi) ynghyd â ffon swagar, ac yn eistedd ar gadair. Mae ei gwallt wedi’i glymu nôl â chwlwm mawr, sy’n awgrymu nad ydy hi ddim h?n na 16 neu 17 oed; Ar gefn y ffotograff nodir iddo gael ei dynnu yn Gale’s Studios Ltd, Stryd y Frenhines, Caerdydd. Mae ‘From Gladys / To Ada’ wedi’i ysgrifennu mewn inc arno.
Cyfeirnod: WaW0077
Ffotograff o Gladys, Caerdydd
Ffotograff o Gladys yn ferch ifanc yn gwisgo iwnifform y Magnelwyr Brenhinol, tua 1914
Cefn ffotograff Gladys
Ar gefn y ffotograff nodir: Gale’s Studios Ltd, Heol y Frenhines, Caerdydd a’r arysgrifen 'To Ada From Gladys’