Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Ethel Hodgens
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, November 1914 – May 1919 / T
Nodiadau: Ar ôl gweithio am rai misoedd yn wirfoddolwraig ran-amser, bu Ethel yn gweithio am dâl mewn ysbytai milwrol: un flwyddyn yn Rhydychen, yna o Fai 1916 yn Camiers, Tréport a Rouen, yn Ffrainc. Bu’n gweithio tan fis Mehefin 1919, a soniwyd amdani mewn adroddiadau yn Ionawr 1918. Roedd hi’n 24 pan ymunodd â’r Groes Goch.
Cyfeirnod: WaW039
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cerdyn Croes Goch Ethel Hodgens, yn dangos sut y bu’n gwasanaethu yn Lloegr a Ffrainc [cefn].
Adroddiad papur newydd
Adroddiad byr am nodi enw Ethel Hodgens mewn adroddiadau. Cambria Daily Leader 5ed Ionawr 1918.
Marie Beckers
Man geni: Gwlad Belg
Gwasanaeth: Athrawes, ffoadures
Nodiadau: Roedd Marie Becker yn un o’r ffoaduriaid o Wlad Belg a letyai yn Nhreffynnon, ac ymddengys mai hi oedd llefarydd y grŵp. Adroddwyd am ei phenodi i ddysgu plant o Wlad Belg gyn Ysgol Sir Treffynnon yn y wasg Gymreig a Saesneg.
Cyfeirnod: WaW0399
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodiad Marie Becker yn Ysgol Sir Treffynnon. Flintshire Observer 21ain Ionawr 1915.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodiad Marie Becker yn Ysgol Sir Treffynnon. Y Brython Ionawr 21ain, 1915.
Lilian Eva Rees
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Chwaraewraig rygbi, gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel
Nodiadau: Chwaraeai Lilian rygbi dros Cardiff Ladies, gyda Maria Eley [qv] a chyd-weithwraig iddi mae’n debyg.
Ffynonellau: https://cardiffrugbymuseum.org/articles/earliest-photograph-women%E2%80%99s-team
Cyfeirnod: WaW0397
Lilian Eva Rees
Eistedd Lilian rhwng Maria Eley (rhes ganol yn eistedd ar y chwith) a’r Capten E Kitson (yn dal y bêl). Mae’n debygol i’r llun gael ei dynnu ar 15fed Rhagfyr 1917.
Adroddiad papur newydd
Hysbyseb am y gêm rhwng Newport Ladies a Cardiff Ladies, 15eg Rhagfyr 1917. Western Morning News.
Adroddiad papur newydd
Toriad yn rhoi sgôr y gêm a chwaraewyd ar Ragfyr 15fed 1917. Ffynhonnell anhysbys.
E Kitson
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel a chwaraewraig rygbi
Nodiadau: E. Kitson oedd capten Cardiff Ladies. Roedd yn chwarae yn yr un tîm â Lilian Rees [qv] a Maria Eley [qv] ac yn cydweithio â hwy, mae’n debyg.
Ffynonellau: https://cardiffrugbymuseum.org/articles/earliest-photograph-women%E2%80%99s-team
Cyfeirnod: WaW0398
Adroddiad papur newydd
Hysbyseb papur newydd am y gêm rhwng Newport Ladies a Cardiff Ladies, Rhagfyr 1917
Toriad o’r wasg
Toriad yn rhoi sgôr y gêm rhwng Newport Ladies a Cardiff Ladies, Rhagfyr 1917. Ffynhonnell anhysbys.
Fannie A Jones
Man geni: Ynys Môn
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Mae cofnod VAD Fannie hytrach yn rhyfedd. Yn ô lei cherdyn (lle mae’r lythyren gyntaf wedi ei newid o F i E), ymunodd hi â’r VAD yn Ionawr 1916 a gweithiodd am un awr. Fodd bynnag y mae yn cofnodi hefyd iddi weithio yn Ysbyty Ryfel Fazackerley yn Lerpwl, ac mae’r North Wales Chronicle ar 23ain Mawrth 1917 yn nodi iddi ennill y Groes Goch Frenhinol
Cyfeirnod: WaW0403
Cerdyn cofnod yr Groes Goch
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Fannie Jones yn nodi’r newid o F i E.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyflwyno’r Groes Goch Frenhinol i’r Fannie Jones. North Wales Chronicle 23ain Mawrth 1917
Sarah Annie Evans (later Kyght)
Man geni: Caerfyrddin
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Gweithiai dau riant Annie, i Undeb Gwarcheidwaid Deddf y Tlodion ac yn 13 oed daeth hi’n ddisgybl-athrawes. Yn ddiweddarach hyfforddodd yn nyrs yn Ysbyty Frenhinol Bryste ac ymunodd â’r TFNS. Ar ddechrau’r rhyfel daeth Ysbyty Frenhinol Bryste yn Ysbyty Filwrol. Anfonwyd Annie i’r Aifft yn Hydref 1915, ac yna cafodd ei throsglwyddo i HMHS Braemar Castle yn Ebrill 1916, lle’r arhosodd nes iddi gael ei tharo gan ffrwydron ym Môr yr Aegean ar 23ain Tachwedd. Ni chollwyd bywydau, ond treuliodd beth amser yn y môr. Treuliodd weddill y rhyfel yn Ffrainc, lle dyrchafwyd hi’n Chwaer. Cafodd ei diswyddo o’r FNS gyda geirda clodwiw, yn 1919, a dychwelodd i Ysbyty Frenhinol Bryste – redden nhw wrth eu bodd ei chael yn ôl yno, meddid. Gadawodd nyrsio a’r TFNS pan briododd hi Bert Kyght yn 1923
Cyfeirnod: WaW0394
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ymadawiad Sarah am yr Aifft. Carmarthen Journal 29ain Hydref 1915.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am yrfa Sarah, a gyhoeddwyd pan oedd hi adref ar ymweliad. Carmarthen Journal 29ain Tachwedd 1918.
Ethel Vaughan Owen
Man geni: Llanidloes
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Roedd Ethel yn ferch i feddyg ac ymunodd â’r VAD yn 1915. Yn ystod ei gwasanaeth cafodd ei hanfon i’r Llong Ysbyty Britannia ac i Ysbyty Valletta, Malta, lle trawyd hi’n ddifrifol wael â disentri. Gwellodd o hyn. Bu llawer fawr ohono. rn
Cyfeirnod: WaW0402
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Ethel Vaughan Owen, yn dangos ei gwasanaeth dramor.rn
Alice M Bale
Gwasanaeth: Athrawes
Nodiadau: Alice Bale oedd prifathrawes gyntaf Adran y Babanod am ysgol Marlborough Road pan agorodd hi yn 1900. Ymddeolodd yn 1924. Yn 1918 cafodd ei hethol yn un o dri phennaeth yn aelodau o Lys Prifysgol Cymru.
Cyfeirnod: WaW0407
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ethol Alice Bale i Lys Prifysgol Cymru, Llangollen Advertsier 15 Mawrth 1918rn
Sarah Jenkins
Man geni: Pwll y Glaw, Cwmafon
Gwasanaeth: Cogyddes , WAAC, 1918/01/15 – 1919/11/12
Nodiadau: Roedd Sarah yn 22 pan ymunodd â’r WAAC. Efallai iddi weithio rywdro yn y gwaith tunplat er bod ei chofnodion WAAC yn honni mai pobydd oedd hi. Treuliodd Sarah y rhan fwyaf o’i hamser yn Ddirpwy Gogydd, yna’n Gogydd, yn Shirehampton Remount Depot, Bryste. Roedd y Depo’n trin miloedd o geffylau ac asynnod. Cedwid pob anifail am bythefnos dair a’u profi am afiechydon. Y bwriad oedd cael yr anifail yn lan a ffit, yn barod i’r hyfforddi ac i wasanaethu. O’r 339,602 o geffylau ac asynnod a aeth trwy’r Depo, dim ond 13,811, ddaeth adre wedi’r rhyfel. Diolch i Bev Gulley.
Ffynonellau: National Archives
Cyfeirnod: WaW0405
Elsie Chamberlain (née Cooil)
Man geni: Lerpwl
Gwasanaeth: Athrawes, mam, gwleidydd lleol
Nodiadau: Symudodd Elsie gyda’i theulu o Lerpwl i Fangor pan oedd hi’n bump. Ar ôl gadael ysgol, bu’n athrawes mewn ysgolion lleol. Dweodd Charlotte Price White [qv], y swffragydd lleol adnabyddus, wrthi ‘ Mae gen ti’r ddawn i wneud gwaith cyhoeddus a dy ddyletswydd di yw gwasanaethu dinesyddion Bangor’ Gwasanaethodd ar nifer o bwyllgorau amser rhyfel, a sfaodd yn aflwyddiannus ar gyfer etholiadau treflo 1919, a dod yn gynhorydd o’r diwedd yn 1930. Ho oedd Maer benywadd cyntaf Bangor rhwng 1941 a 1943. Elsie oedd mam yr artist a’r awdud Brenda Chambelain a bu fawr yn 1972.
Ffynonellau: Jill Percy: Brenda Chamberlain, Artist and Writer (Parthian Books 2013)
Cyfeirnod: WaW0409
Adroddiad papur newydd
Adroddiad o arddangosfa dai a drefnwyd gan gangen Bangor o Gyngor Cenedlaethol y Menywos, gan gynnwys Mrs Chamberlain. North Wales Chronicle 15 Awst 1919