Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Una McCarthy
Man geni: Abertylri ?
Gwasanaeth: Nyrs
Marwolaeth: October/Hydref 1918, Achos anhysbys
Nodiadau: Ni wyddys unrhywbeth ar hyn o bryd am Una McCarthy y gwelir ei llun gydag eraill mewn papur newydd, yr Argus o bosib, dan y pennawd ‘Died on Service’.
Cyfeirnod: WaW0390
Elizabeth Jane [Batchie] Griffiths
Man geni: Llanymddyfri
Gwasanaeth: Clerc, VAD, 1918/01/28 – 1919/02/27
Nodiadau: Gadawodd Batchie yr ysgol yn fuan ar ôl ei phen-blwydd yn 18 i ymuno â’r VADs. Cyn hynny roedd wedi hyfforddi fel gwirfoddolwraig gyda Mintai wrth gefn Caerfyrddin. Gweithiodd yn glerc yn stordy’r swyddog cyflenwi yn Ysbyty Milwrol Catterick yn Swydd Efrog, lle’s ymddengys iddi gael bywyd cymdeithasol bywiog! Diolch i Alathea Anderssohn
Cyfeirnod: WaW0392
Batchie Griffiths
Batchie Griffiths gydag aelodau eraill Stordy’r Swyddog Cyflenwi. Mae Batchie yn eistedd ar y dde. Tynnwyd y llun ar 24ain Mawrth 1918. Diolch i Alathea Anderssohn.
Cerdyn cofnod yr Groes Goch
Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Batchie Griffiths. Noder iddi gael ei chofrestru wrth ei llysenw.
Batchie Griffiths
Ffotograff o Batchie rhwng ei ffrindiau Biggsie [l] a Minnie [r]. Noder ei bod yn ymddangos bod VADs nad oedd yn nyrsio yn gwisgo teis yn rhan o’u hiwnifform bob dydd. Diolch i Alathea Anderssohn.
Ethel Hodgens
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, November 1914 – May 1919 / T
Nodiadau: Ar ôl gweithio am rai misoedd yn wirfoddolwraig ran-amser, bu Ethel yn gweithio am dâl mewn ysbytai milwrol: un flwyddyn yn Rhydychen, yna o Fai 1916 yn Camiers, Tréport a Rouen, yn Ffrainc. Bu’n gweithio tan fis Mehefin 1919, a soniwyd amdani mewn adroddiadau yn Ionawr 1918. Roedd hi’n 24 pan ymunodd â’r Groes Goch.
Cyfeirnod: WaW039
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cerdyn Croes Goch Ethel Hodgens, yn dangos sut y bu’n gwasanaethu yn Lloegr a Ffrainc [cefn].
Adroddiad papur newydd
Adroddiad byr am nodi enw Ethel Hodgens mewn adroddiadau. Cambria Daily Leader 5ed Ionawr 1918.
Isabella Lilian Mitchell
Man geni: Cattistock, Dorset
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn cantîn, Gyrwraig Ambiwlans , French Red Cross, 1915 - 1918 ?
Marwolaeth: 1970, Swydd Caint , Achos anhysbys
Nodiadau: Unig ferch teulu o’r Alban a oedd wedi ymsefydlu yn Aberhonddu oed Isabella. A A Mitchell, Henadur ac YH oedd ei thad a gwirfoddolodd ei dau frawd yn swyddogion yn y fyddin. Yn mis Medi roedd yn gweithio yng Nghantîn y Groes Goch Ffrengig yng Ngorsaf Creil, i’r gogledd o Baris. Dywedir iddi dderbyn y Croix de Guerre yn haf 1918 am dair blynedd o wasanaeth i ambiwlans modur Byddin Ffrainc, ac yn arbennig am ei gwaith da yn Creil. Diolch i Marianne Last.
Cyfeirnod: WaW0395
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am waith cantîn Isabella yn Creil, Ffrainc. Brecon County Times 2il Medi 1915.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Isabella â’r Croix de Guerre. Brecon County Times 1af Awst 1918
Lilias Stuart Mitchell (née Wilsone)
Man geni: Straights Settlement
Gwasanaeth: Pwyllgorwraig, mam
Marwolaeth: 1949, Swydd Caint , Achos anhysbys
Nodiadau: Gwraig A A Mitchell, Henadur ac YH yn Aberhonddu a mam Isabella Mitchell [qv] a fu’n gyrru ambiwlansysy yn Ffrainc oedd Lilias Mitchell. Lladdwyd ei mab hynaf ym Mesopotamia yn 1917 ac anafwyd ei mab ieuengaf yn ddifrifol yn Ffrainc yn 1918. Roedd hi a’i gŵr yn Geidwadwyr lleol nodedig; cefnogodd Lilias ffoaduriaid ac Ysbyty’r Groes Goch Penoyre. At hyn hi oedd Ysgrifennydd Pwyllgor Ffair Gyflogi Aberhonddu ac roedd yn Aelod o Bwyllgor y Ddeddf Diffyg Meddyliol. Ym Mehefin 1918 gwobrwywyd hi â’r Medaille de la Reine Elisabeth am ei gwaith gyda ffoaduriaid Gwlad Belg. Gadawodd hi a’i gŵr yr ardal yn 1919.
Cyfeirnod: WaW0396
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Mrs Mitchell i Bwyllgor Deddf Diffyg Meddyliol. Brecon County Times 5ed Awst 1915.
Llythr papur newydd
Llythyr i’r papur Newydd am ddarpariaeth i’r merched yn Ffair Gyflogi Aberhonddu. Brecon County Times 26ain Ebrill 1917.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Mrs Mitchell â’r Medaille de la Reine Elisabeth. Brecon and Radnor Express 27ain Mehefin 1918.
Rhybudd o ocsiwn
Rhestr o offer gardd a stabl a werthwyd gan y teulu Mitchell cyn iddynt ymadael ag Aberhonddu. Brecon County Times 21ain Awst 1919.
Marie Beckers
Man geni: Gwlad Belg
Gwasanaeth: Athrawes, ffoadures
Nodiadau: Roedd Marie Becker yn un o’r ffoaduriaid o Wlad Belg a letyai yn Nhreffynnon, ac ymddengys mai hi oedd llefarydd y grŵp. Adroddwyd am ei phenodi i ddysgu plant o Wlad Belg gyn Ysgol Sir Treffynnon yn y wasg Gymreig a Saesneg.
Cyfeirnod: WaW0399
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodiad Marie Becker yn Ysgol Sir Treffynnon. Flintshire Observer 21ain Ionawr 1915.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodiad Marie Becker yn Ysgol Sir Treffynnon. Y Brython Ionawr 21ain, 1915.
Lilian Eva Rees
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Chwaraewraig rygbi, gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel
Nodiadau: Chwaraeai Lilian rygbi dros Cardiff Ladies, gyda Maria Eley [qv] a chyd-weithwraig iddi mae’n debyg.
Ffynonellau: https://cardiffrugbymuseum.org/articles/earliest-photograph-women%E2%80%99s-team
Cyfeirnod: WaW0397
Lilian Eva Rees
Eistedd Lilian rhwng Maria Eley (rhes ganol yn eistedd ar y chwith) a’r Capten E Kitson (yn dal y bêl). Mae’n debygol i’r llun gael ei dynnu ar 15fed Rhagfyr 1917.
Adroddiad papur newydd
Hysbyseb am y gêm rhwng Newport Ladies a Cardiff Ladies, 15eg Rhagfyr 1917. Western Morning News.
Adroddiad papur newydd
Toriad yn rhoi sgôr y gêm a chwaraewyd ar Ragfyr 15fed 1917. Ffynhonnell anhysbys.
E Kitson
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel a chwaraewraig rygbi
Nodiadau: E. Kitson oedd capten Cardiff Ladies. Roedd yn chwarae yn yr un tîm â Lilian Rees [qv] a Maria Eley [qv] ac yn cydweithio â hwy, mae’n debyg.
Ffynonellau: https://cardiffrugbymuseum.org/articles/earliest-photograph-women%E2%80%99s-team
Cyfeirnod: WaW0398
Adroddiad papur newydd
Hysbyseb papur newydd am y gêm rhwng Newport Ladies a Cardiff Ladies, Rhagfyr 1917
Toriad o’r wasg
Toriad yn rhoi sgôr y gêm rhwng Newport Ladies a Cardiff Ladies, Rhagfyr 1917. Ffynhonnell anhysbys.
Fannie A Jones
Man geni: Ynys Môn
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Mae cofnod VAD Fannie hytrach yn rhyfedd. Yn ô lei cherdyn (lle mae’r lythyren gyntaf wedi ei newid o F i E), ymunodd hi â’r VAD yn Ionawr 1916 a gweithiodd am un awr. Fodd bynnag y mae yn cofnodi hefyd iddi weithio yn Ysbyty Ryfel Fazackerley yn Lerpwl, ac mae’r North Wales Chronicle ar 23ain Mawrth 1917 yn nodi iddi ennill y Groes Goch Frenhinol
Cyfeirnod: WaW0403
Cerdyn cofnod yr Groes Goch
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Fannie Jones yn nodi’r newid o F i E.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyflwyno’r Groes Goch Frenhinol i’r Fannie Jones. North Wales Chronicle 23ain Mawrth 1917
Sarah Annie Evans (later Kyght)
Man geni: Caerfyrddin
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Gweithiai dau riant Annie, i Undeb Gwarcheidwaid Deddf y Tlodion ac yn 13 oed daeth hi’n ddisgybl-athrawes. Yn ddiweddarach hyfforddodd yn nyrs yn Ysbyty Frenhinol Bryste ac ymunodd â’r TFNS. Ar ddechrau’r rhyfel daeth Ysbyty Frenhinol Bryste yn Ysbyty Filwrol. Anfonwyd Annie i’r Aifft yn Hydref 1915, ac yna cafodd ei throsglwyddo i HMHS Braemar Castle yn Ebrill 1916, lle’r arhosodd nes iddi gael ei tharo gan ffrwydron ym Môr yr Aegean ar 23ain Tachwedd. Ni chollwyd bywydau, ond treuliodd beth amser yn y môr. Treuliodd weddill y rhyfel yn Ffrainc, lle dyrchafwyd hi’n Chwaer. Cafodd ei diswyddo o’r FNS gyda geirda clodwiw, yn 1919, a dychwelodd i Ysbyty Frenhinol Bryste – redden nhw wrth eu bodd ei chael yn ôl yno, meddid. Gadawodd nyrsio a’r TFNS pan briododd hi Bert Kyght yn 1923
Cyfeirnod: WaW0394
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ymadawiad Sarah am yr Aifft. Carmarthen Journal 29ain Hydref 1915.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am yrfa Sarah, a gyhoeddwyd pan oedd hi adref ar ymweliad. Carmarthen Journal 29ain Tachwedd 1918.