English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18


Chwilio
Chwilio uwch

Beth yw ystyr y blaenlythrennau hyn?


ATSArmy Transport Service
(Gwasanaeth Cludiant y Fyddin)
Roedd rhai WAACau yn gweithio i’r ATS fel cogyddion, clercod a.y.b. Roedd Gwasanaeth Cludiant y Fyddin yn rhan o Gorfflu Gwasanaeth y Fyddin, yn darparu bwyd ac offer i’r fyddin.
CHRCivilian Hospital Reserve
(Sifiliad Wrth Gefn mewn Ysbytai)
Cofrestr o nyrsys wedi eu hyfforddi mewn ysbytai a oedd ar gael i’w galw i wasanaethu yn ystod y Rhyfel.
FANYFirst Aid Nursing Yeomanry
(Iwmyn Nyrsio Cymorth Cyntaf)
Roedd y FANYs, grŵp a ffurfiwyd yn 1907, yn nyrsio a gyrru ambiwlansys yn Ffrainc. Ar y cyfan roeddent o gefndiroedd cefnog; roedd gan rai ohonynt geir.
QAIMNSQueen Alexandra’s Imperial Military Nursing Service (Gwasanaeth Nyrsio Milwrol Ymerodrol y Frenhines Alexandra)Ffurfiwyd yn 1902, roedd hwn yn wasanaeth nyrsio rheolaidd yn gysylltiedig â’r Fyddin. Mae’n dal mewn bodolaeth heddiw.
QARNNSQueen Alexandra’s Royal Naval Nursing Service
(Gwasanaeth Nyrsio Morol Brenhinol y Frenhines Alexandra)
Ffurfiwyd yn 1902, roedd hwn yn wasanaeth nyrsio rheolaidd yn gysylltiedig â’r Llynges Frenhinol.
QMAACQueen Mary’s Army Auxiliary Corps
(Corfflu Atodol Byddin y Frenhines Mary)
Ailenwyd WAAC yn QMAAC ar 9 fed Ebrill 1918. Y Frenhines Mary oedd eu Prif Gyrnol. Cafodd ei ddiddymu yn 1920.
SWHScottish Women’s Hospitals
(Ysbytai Menywod yr Alban)
Ffurfiwyd gan fenywod (er gwaetha gwrthwynebiad swyddogol) yn 1914. Gweithiodd doctoriaid benywaidd a nyrsys, rhai o Gymru, mewn amodau anodd yn Serbia and Salonica, a hefyd yn Ffrainc.
TFNSTerritorial Forces Nursing Service
(Gwasanaeth Nyrsio'r Lluoedd Tiriogaethol)
Cyfwerth â’r Fyddin Diriogaethol, gellid galw am wasanaeth nyrsys sifil hyfforddedig o’r ysbytaisifil.
VADVoluntary Aid Detachment
(Mintai Gymorth Wirfoddol)
Gweithiai’r rhan fwyaf o VADs fel nyrsys heb hyfforddiant, er bod y Groes Goch yn darparu hyfforddiant. Gwasanaethodd llawer yn agos i gartref, ond anfonwyd rhai dramor.
WAACWomen’s Army Auxiliary Corps
(Corfflu Atodol Byddin y Menywod)
Sefydlwyd yn Rhagfyr 1916. Cymerodd menywod le milwyr yn gwneud tasgau domestig a chlerigol. O ystyried maint, deuai mwy o WAACau o Gymru nag o rannau eraill y DU. Ailenwyd yn QMAAC yn 1918.
WLAWomen’s Land Army
(Byddin Dir y Menywod)
Sefydlwyd yn Ionawr 1917 i recriwtio merched ifanc i weithio ar ffermydd. Roedd llawer o fenywod a merched eisoes yn gweithio ar ffermydd, ond trefnodd hyn nhw a rhoi gwisg swyddogol a hyfforddiant iddynt.
WRAFWomen’s Royal Air Force
(Awyrlu Brenhinol y Menywod)
Sefydlwyd ar 1 Ebrill 1918. Cymerodd menywod le awyrenwyr yn gwneud tasgau domestig a chlerigol, Cafodd ei ddiddymu yn 1920.
WRNSWomen’s Royal Naval Service
(Gwasanaeth Morol Brenhinol y Menywod)
Sefydlwyd yn Nhachwedd 1917. Cymerodd menywod le morwyr yn gwneud tasgau domestig a chlerigol. Cafodd ei ddiddymu yn 1919.


Administration