Menywod yng Nghymru yn 1915
Ym mis Mawrth 1915 dechreuwyd cyflogi menywod o ddifri ac yn eu lluoedd mewn diwydiant a chrebachodd y gweithwyr mewn ‘masnachau moethus’ yn fawr. Ond oherwydd cynllunio gwael roedd y fyddin yn ddifrifol o brin o sieliau a magnelau. Sefydlwyd Gweinyddiaeth Arfau Rhyfel i gydlynu gwneud arfau, ac fel roedd y dynion yn ymuno â’r fyddin, roedd galw mawr am weithwyr benywaidd i gymryd eu lle yn y ffatrïoedd gwladoledig. Dwedodd arweinydd y swffragetiaid, Mrs Pankhurst wrth Lloyd George fod cwynion difrifol iawn fod menywod oedd yn gweithio mewn gweithfeydd gwneud arfau preifat yn cael eu hecsbloetio, gan eu bod yn cael cyflogau llawer llai na dynion. Ateb Lloyd George oedd y dylai pethau wella’n fawr yn y ffatrïoedd gwladoledig newydd. Fodd bynnag, er bod eu tâl yn gymharol dda, ni chafodd menywod y ffatrïoedd arfau erioed dâl cyfartal â’u cydweithwyr gwrywaidd.
Ym mis Mawrth hefyd cyhoeddodd y Bwrdd Masnach apêl i fenywod gofrestru ar gyfer gwaith - unrhyw fath o waith cyflogedig, boed ddiwydiannol, amaethyddol, clerigol neu arall, yn eu Cyfnewidfa Llafur lleol. O fewn pythefnos roedd dros 33,000 o fenywod ledled Prydain wedi cofrestru, a thros 100,000 erbyn Medi, ond prin oedd y swyddi ar eu cyfer. Roedd cyflogwyr ac undebau yn wrthwynebus, er enghraifft ni fu ymdrechion i gyflogi menywod yn y fasnach wlân yng ngorllewin Cymru yn llwyddiannus am dros flwyddyn. Yna, ym mis Awst gwelwyd gweithredu’r Ddeddf Gofrestru Genedlaethol, ymgais drefnus i gofrestru pob person rhwng 15 a 65 oed, fel y gellid eu cyfeirio at y fyddin neu at waith yn ymwneud â’r rhyfel. Roedd yn rhaid i bob person lenwi ffurflen yn rhoi manylion eu teuluoedd, eu hanes yn y gweithle a’u sgiliau. Gwnaethpwyd y gwaith hwn ym mhob awdurdod lleol gyda chymorth gwirfoddolwyr. Roedd llawer o’r gwirfoddolwyr hyn, megis y rhai yn Llanfair ym Muallt, yn fenywod. O fewn tua mis derbyniodd pob person gerdyn cofrestru.
Tyfodd pwysigrwydd cyfraniadau athrawesau ledled Cymru yn ystod y flwyddyn. Hyd at hyn, bu’n rhaid i fenywod ymddiswyddo ar ôl di-briodi: ond yn awr yn sgil y prinder athrawon gwrywaidd a oedd yn ymuno â’r fyddin, bu’n rhaid rhoi’r gwaharddiad na châi menywod di-briod a oedd yn cael eu cynnal gan eu gwŷr weithio i’r cyngor, o’r neilltu yn raddol ym mwyafrif yr awdurdodau addysg. Penderfynodd Pwyllgor Addysg Aberdâr ym mis Mehefin y caniateid i athrawesau a oedd yn briod â milwyr barhau i ddysgu am gyfnod y rhyfel Ym mis Hydref cytunodd Pwyllgor Addysg sir Benfro yn hwyrfrydig y gellid cyflogi athrawesau di-briod le na cheid cais gan athrawon di-briod.
Rhoddwyd cryn bwysau ar sawl athrawes, fel y fenyw ifanc hon gyda’i dosbarth o blant 8 a 9 oed yn Hwlffordd yn broffesiynol yn ogystal ag yn bersonol.
Ddechrau Chwefror 1915 etholwyd Miss Jones o Res-y-cae yn llywydd benywaidd cyntaf Cymdeithas Athrawon sir y Fflint. Yn ei haraith sefydlu dwedodd bod yn rhaid parhau’r gwaith addysgol yn y sir er mwyn y plant. Rhaid iddynt geisio rhoi llewyrch i’w bywydau bach. Roedd llawer o’r tadau wedi ymuno â’r lluoedd arfog, a llawer, ysywaeth, wedi syrthio ar fin y ffordd. Collodd bron bob athrawes briod ei gwaith ar ddiwedd y rhyfel.
Ni allai disgyblion ysgol osgoi gwaith rhyfel ychwaith. Ym mis Ionawr cododd disgyblion Ysgol y Merched Heol Gladstone, y Barri, £7 14s 9d at elusennau rhyfel amrywiol trwy wneud bathodynnau’r ‘Young Patriots League’, cynnal cyngherddau a ffeiriau cynnyrch.
Buon nhw’n gwau’n ddiddiwedd hefyd: helmedau, sgarffiau, gwregysau, sanau a sanau gwely ar gyfer y milwyr. Dwedwyd bod y bechgyn yn cyfrannu o’u ceiniogau fel y gallai’r merched wau mwy o ddilladach. Caent eu gwobrwyo am eu gwaith trwy dystysgrifau, fel hon:
Gweithient hefyd ym maes amaeth. Ym mis Mehefin cytunodd Pwyllgor Addysg Wrecsam i gais i ddechrau'r gwyliau haf ynghynt, fel y gallai’r plant helpu i hel mefus.
Roedd menywod yn cael eu hyfforddi i wneud gwaith fferm, er na châi Byddin Dir y Menywod ei ffurfio tan 1917. Effeithiwyd ar addysg prifysgol yn ogystal. Gadawodd llawer o’r myfyrwyr gwrywaidd i wneud gwasanaeth milwrol cyn eu harholiadau, gan adael y dosbarthiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth yn llawn o fyfyrwragedd galluog. Cofnododd yr adran Saesneg mai dim ond un dyn oedd yna o blith y naw myfyriwr yn sefyll arholiad anrhydedd yn Saesneg (Roeddent, meddid, lawer gwell na’r cyffredin o ran eu teilyngdod). Llongyfarchwyd Miss Wretts Smith yn galonnog am fod y fyfyrwraig gyntaf yn y Brifysgol i ennill yr anrhydedd uchaf mewn Economeg a Gwyddoniaeth Wleidyddol. Cafodd menywod academaidd eu dyrchafu’n fwy parod yn ystod y rhyfel. Daeth Miss Brebner yn athro gweithredol yn yr adran Almaeneg, a chafodd Miss E A Lloyd ei dyrchafu’n ddarlithydd ym Mangor. Roedd Olivia Griffiths, a raddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1910, yn ddarlithydd mewn Addysg yn Aberystwyth (ac yn ddiweddarach ym Mangor).
Parhaodd llawer o fenywod yng Nghymru i drefnu cysuron ar gyfer y milwyr. Yn ogystal â gwau a gwnïo, anfonwyd parseli o dybaco, losinau a danteithion ar hyd a lled y byd. Mae Cambrian News 22ain Rhagfyr yn cofnodi diolch aelodau un capel yn Aberystwyth a oedd wedi derbyn parseli yn Ffrainc, Salonica ac ar y môr mawr. Yn eu plith roedd dwy nyrs, y Chwaer Evelyn M Evans o’r Ysbyty Cymreig, India, a’r Chwaer S C Kenrick o Ysbyty Cymreig Bombay. Roeddent ill dwy wedi derbyn cacennau. Nododd y Chwaer Evans mor braf oedd meddwl nad oeddent wedi eu hanghofio er eu bod mor bell i ffwrdd, a gwahoddodd y Chwaer Kenrick y Capten S James i de i rannu ei chacen hi!